Croeso i Menter Iaith Casnewydd
Nod Menter Iaith Casnewydd yw cynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd a’i gwneud yn iaith sy’n rhan o waed naturiol y ddinas gan alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg. Rydyn ni’n trefnu llwyth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ble gallwch chi ymarfer eich iaith, gan gynnwys digwyddiadau i blant (meithrin, cynradd, ieuenctid), oedolion ifanc, teuluoedd, dysgwyr a henoed.
Gweithgareddau
Hyder Cymraeg
18/09/2024 12:00 - 13:00
Sesiwn sgwrsio Cymraeg i unigolion gyda gallu canolradd
Cerdded a Chlonc
19/09/2024
Taith gerdded hamddenol ar hyd y gamlas yna paned a sgwrs
Cerdded a Chŵn
22/09/2024 11:00 - 13:00
Mae Cerdded a Chŵn yn gyfle i sgwrsio yn Gymraeg wrth gerdded gyda'ch ci am dro
CALENDR DIGWYDDIADAU
Cyfeiriadur Cymunedol
Rydym wedi adeiladu casgliad o adnoddau defnyddiol wedi'u categoreiddio ar eich cyfer chi. Ffeindiwch ddolennau ar gyfer dysgwyr, busnesau, mudiadau a llawer mwy.
Tystebau
"Rwyf i wedi bod ynghlwm â’r fenter ers ei dyddiau cyntaf. Mae’n braf iawn ei gweld hi’n mynd o nerth i nerth ac yn cefnogi’r nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg yn y ddinas. Tîm brwd a galluog sy’n cyd-weithio’n agos â phobl leol ac yn manteisio ar gryfderau Casnewydd i sicrhau dyfodol disglair yma i’r Gymraeg.
Mair Rees
"Mae Menter Iaith Casnewydd yn cael eu rhedeg gan dîm gweithgar a brwdfrydig i ddarparu gweithgareddau o bob math o bobl: o blant i’r henoed , o gerdded milltiroedd i ymlacio i sŵn cerddoriaeth gyda bwyd a diod. Hefyd , yn gyfrifol am roi bywyd cymdeithasol Cymreig a Chymraeg i ddisgyblion ysgolion y Ddinas hon."
Chris Priest
Fel arfer bydd rhywbeth addas i bawb yn cael ei drefnu gan Fenter Casnewydd. Mae pobl o bob oed yn gallu ymarfer eu Cymraeg gyda’i gilydd wrth gael amser da.
N.H.Chamberlain
"Mae Menter iaith yn gwneud gwaith rhagorol o annog adloniant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n ardderchog am ddod a’r gymuned Gymreig ynghyd, ac yn hyfryd fy mod i’n gallu cyfrannu. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn wych ar gyfer fy hysbysu am ddigwyddiadau perthnasol sydd wedi bod o fudd i mi a fy merched yn enwedig eleni trwy’r amseroedd caled hyn! Rydw i’n gwerthfawrogi’r mudiad yn fawr iawn ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd yn cyfrannu iddo."
Sioned Rees
"Mae Menter Iaith Casnewydd yn ganolig i ddiwylliant Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae ei gwaith yn cadw’r iaith yn fyw yng Nghasnewydd."
Harri Pyke
Helo Blod
Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim! Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu i ti ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes - hyd at 10 ymholiad fesul mis calendr.
Gwirfoddoli
Ydych chi’n frwdfrydig am yr iaith Gymraeg? Ydych chi eisiau cyfrannu at dyfiant y Gymraeg yng Nghasnewydd? Beth am wirfoddoli gyda ni?