Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu i ti ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes - hyd at 10 ymholiad fesul mis calendr. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml ag archebu laniard a/neu fathodyn i nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu'n dysgu Cymraeg. Ac os oes angen unrhyw beth ychwanegol arall, fe wnaeth Helo Blod gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu. Picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi i ddechrau arni!

Helo Blod Cyfieithu am ddim

Heb sgwennu yn Gymraeg am sbel? Dim ots! Mae Helo Blod yma i helpu. Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth dy hun? Fe wnaiff Helo Blod wirio'r cwbl i ti, jyst picia draw i'r tab nesaf

Fel arall, gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i dy fusnes.

Mae'n hawdd ‒ picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi, mewn â thi, rho'r testun Saesneg i'w gyfieithu i mewn, ac fe wnaiff Helo Blod y gwaith caled i ti. A dyna ni!

Bydd dy gyfieithiad yn cael ei ddychwelyd cyn pen 4 diwrnod gwaith, neu 1 diwrnod gwaith am 5 gair neu lai! 

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. 

Gwefan: https://businesswales.gov.wales/heloblod/cy/helo-blod
Ffôn: 03000 25 88 88
Twitter: HeloBlod
Facebook: HeloBlod

 

Cwlwm Busnes Gwent

Grŵp rhwydweithio yn y Gymraeg i berchnogion busnes ac unigolion proffesiynol sydd yn byw neu'n gweithio yng Ngwent.

Y Gymraeg y brif iaith y rhwydwaith, mae croeso cynnes i unrhyw un sydd am ymarfer eu Cymraeg neu am wneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg o fewn eu busnes.

Linkedin: Cwlwm Busnes Gwent