Gwirfoddoli yn Menter Iaith Casnewydd

Ydych chi’n frwdfrydig am yr iaith Gymraeg? Ydych chi eisiau cyfrannu at dyfiant y Gymraeg yng Nghasnewydd? Beth am wirfoddoli gyda ni?

Mae gwirfoddolwyr wedi bod, ac yn parhau i fod yn rhan annatod o waith cymunedol y Fenter. Daw gwirfoddolwyr o gefndiroedd amrywiol gan roi ei amser i’n helpu i gyflawni amrywiaeth o rolau (amser a rôl yn ddibynnol ar yr unigolyn). Ni allem weithredu hebddynt ac rydym bob amser angen mwy!

Pam gwirfoddoli?

  • Cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau
  • Defnyddio'r Gymraeg (does dim angen i’ch Cymraeg bod yn berffaith) a chyfrannu at dwf yr iaith Gymraeg yng Nghasnewydd.
  • Datblygu sgiliau
  • Ennill profiad 

 

Cyfleoedd Gwirfoddoli

 

Am fwy o wybodaeth neu i drafod, ffoniwch y rhif ffo isod neu  anfonwch e-bost atom 

Rhif ffôn: 07809731578