Am bris baned fe allwch chi gefnogi’n gwaith i gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd.

Mae’n gyfnod ansicr a heriol i unigolion, elusennau a busnesau. Trwy gefnogi Menter Casnewydd fe fyddwch chi yn cyfrannu at alluogi Cymunedau Casnewydd i fyw a gweithio drwy'r iaith Gymraeg.

Nod Menter Iaith Casnewydd yw cynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd a’i gwneud yn iaith sy’n rhan o wead naturiol y ddinas gan alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg. Mae’ch cefnogaeth hael wir wedi ei werthfawrogi.

Cefnogwch Ni ar Patreon