Swydd - Prif Swyddog
27/06/25
Ydych chi ar dân dros y Gymraeg ac yn awyddus i’w gweld yn ehangu a ffynnu yng nghymunedau Casnewydd? Ydych chi eisoes yn brofiadol ym maes datblygu cymunedol neu gynllunio ieithyddol? A oes gennych chi weledigaeth glir a strategol ar gyfer sut i feithrin cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ardal hon, a’r sgiliau i’w gwireddu? Os felly, rydym yn awyddus i glywed gennych chi.
Dyma gyfle cyffrous i berson brwdfrydig weithio gyda’n pwyllgor, ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig a’r gymuned leol i lywio Menter Iaith Casnewydd ar ei thaith tuag at Cymraeg 2050 : miliwn o siaradwyr. Rydym yn chwilio am berson trefnus, creadigol, hyblyg a chynhwysol sy’n mwynhau creu cysylltiadau arloesol a gweithio ar y cyd.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Thomas Hughes, trysorydd@mentercasnewydd.cymru
Cytundeb parhaol: 37 awr
Cyflog: £35,000
Lleoliad: Marchnad Casnewydd (trefniadau gweithio’n hyblyg i’w trafod)
Dyddiad cau: 9:30am, 18 Gorffennaf 2025
Dyddiad y cyfweliadau: 25 Gorffennaf 2025 (cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb)
Teitl: Prif Swyddog
Lleoliad: Uned 2, Marchnad Casnewydd, NP20 1DD
Cyflogwr: Menter Iaith Casnewydd
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £35,000
Gwyliau: 25 diwrnod + Gwyliau Banc statudol
Dyddiad Cau: 9.30am, 18 Gorffennaf 2025
Dyddiad y cyfweliadau: 25 Gorffennaf 2025 (cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb)
Amcan y Swydd
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol nid-er-elw sy’n bodoli i hybu defnyddio’r Gymraeg ac sydd â’r nod o gynyddu’r Gymraeg y mae plant ac oedolion Casnewydd yn ei defnyddio, gan ei gwneud yn iaith sy’n rhan o wead naturiol y ddinas ac sy’n galluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am reoli holl weithgarwch y Fenter, dan oruchwyliaeth Bwrdd Rheoli’r Fenter. Bydd yn gyfrifol am roi cynllun gweithredu Menter Iaith Casnewydd ar waith a bydd pwyslais amlwg ar weithredu mewn partneriaeth gyda chyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas.
Dyma gyfle cyffrous i berson brwdfrydig weithio gyda’n pwyllgor, ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig a’r gymuned leol i lywio Menter Iaith Casnewydd ar ei thaith tuag at Cymraeg 2050 : miliwn o siaradwyr. Rydym yn chwilio am berson trefnus, creadigol, hyblyg a chynhwysol sy’n mwynhau creu cysylltiadau arloesol a gweithio ar y cyd.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Thomas Hughes, trysorydd@mentercasnewydd.cymru
Prif Gyfrifoldebau
· Arwain a rheoli datblygu strategol Menter Iaith Casnewydd
· Rheoli a monitro datblygu staff
· Rheoli cyllideb a chyllid y Fenter wrth gadw cyfrifon cyfredol a chywir
· Rheoli gweinyddiaeth a chyllid y swyddfa yn effeithiol
· Rheoli holl weithgarwch y Fenter er mwyn cyflawni Cynllun Gweithredu cyfredol Menter Iaith Casnewydd
· Gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y staff a’r Bwrdd Rheoli gan gefnogi’r Bwrdd yn ôl y galw
· Darparu adroddiadau cyson a chywir ar ein cynlluniau strategol i’r Bwrdd Rheoli a’r sefydliadau ariannu
· Sicrhau bod ein cynlluniau strategol yn adlewyrchu gwerthoedd ac amcanion cynhwysol y Fenter gan wneud y gwerthoedd hynny yn sail i holl weithgaredd y Fenter a’i staff
· Gweithredu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Fenter fel y bo angen
· Cyflwyno ceisiadau am nawdd i Lywodraeth Cymru, Cyngor Casnewydd a chyllidwyr eraill gan adnabod ffynonellau nawdd perthnasol
· Cynnal y berthynas weithredol dda gyda’r prif gyrff ariannu megis Llywodraeth Cymru a Chyngor Casnewydd
· Creu a chynnal partneriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n hyrwyddo amcanion Menter Iaith Casnewydd
· Cynrychioli’r Fenter ar fforymau a phwyllgorau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er budd amcanion Menter Iaith Casnewydd
· Codi proffil yr Iaith Gymraeg yng Nghasnewydd a hybu’r defnyddio’r Gymraeg ar draws pob sector
· Cydlynu gwasanaethau a wneir gan asiantaethau allanol yn effeithiol gan gynnwys y gwasanaeth cyfrifyddol
· Sicrhau bod y Fenter yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed gwrdd, dysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg
· Sicrhau cefnogaeth eang a thrawsbleidiol i amcanion y Fenter
· Arwain ar ddatblygu cymunedol i rymuso cymunedau Cymraeg yr ardal
· Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl y galw
Cyflawni’r Swydd
Bydd y Prif Swyddog yn atebol i Fwrdd Rheoli’r Fenter.
Bydd gofyn gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau ar adegau yn ogystal â theithio i gyfarfodydd, cynadleddau ac i ymweld â mudiadau eraill.
Bydd y Prif Swyddog yn ymwybodol o iechyd a diogelwch ei hun ac eraill ac yn ymrwymo i ddilyn polisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y Fenter yn ogytal ag amrywiaeth o bolisïau eraill y Fenter.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gweithredu Polisi Cyfle Cyfartal. Mae’r polisi hwn yn ymwneud â deilydd y swydd a’r bobl y bydd y Swyddog yn cysylltu â nhw a sut y bydd yn cyflawni’r gwaith.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl sydd â chyfleoedd cyfyngedig i ddefnyddio’u dewis iaith.
Mae’n bwysig bod deilydd y swydd hon yn awyddus iawn i herio hyn drwy archwilio, canfod a rhoi ar waith, ddulliau aroleosol i’w ddartys.