Prif Swyddog Menter Iaith Casnewydd yn gadael.
24/06/25
Bydd Dafydd Henry, Prif Swyddog presennol Menter Iaith Casnewydd yn gadael ei swydd.
Bydd Dafydd Henry, Prif Swyddog presennol Menter Iaith Casnewydd yn gadael ei swydd ar 1af o Fedi 2025. Bydd y swydd yn cael ei hysbysebu'n fuan.
Mae Dafydd wedi bod yn ei swydd am bum mlynedd, ac mae ef wedi gwneud llawer o waith da dros y Fenter yn ystod y cyfnod hwn. Hoffai'r pwyllgor ddiolch iddo am ei ymroddiad ac rydym yn dymuno'n dda iddo ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol.
Pwyllgor Menter Iaith Casnewydd.