Swydd Newydd: Swyddog Prosiectau

26/03/25

SWYDD:                   Swyddog Prosiectau

LLEOLIAD:               Gweithio’n hyblyg – bydd modd trafod cyfuniad o weithio o gartref a gweithio ar adegau yn y swyddfa yng Nghanol Casnewydd. 

ORIAU GWAITH:    37.5 awr yr wythnos        

CYFLOG:                 £30,000

Swyddog Prosiectau  
 
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi derbyn cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid hyn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg o 10% (yn 2013–15) i 20% erbyn 2050. 

O ganlyniad, mae Menter iaith Casnewydd eisiau penodi Swyddog Prosiectau a fydd yn ymwneud â marchnata ein gweithgareddau a chodi arian ar eu cyfer, wrth iddi gychwyn ar gyfnod newydd cyffrous i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yng Nghasnewydd. 

Canolbwynt y rôl yw creu a chyflawni Strategaeth Ymgysylltu Cymunedol Cynhwysol a Strategaeth Marchnata’r Fenter a fydd yn ennyn brwdfrydedd ac angerdd y gymuned, rhanddeiliaid a phartneriaid. Bydd hyn eu tro yn ein galluogi ni i ehangu ein darpariaeth, ein cyrhaeddiad a’n cynhwysiant ledled y ddinas drwy ymchwilio ffyrdd creadigol a dyfeisgar o gyflwyno a chynnal prosiectau a gweithgareddau newydd ac arloesol er mwyn hwyluso twf y Gymraeg fel iaith bob dydd yng nghymunedau Casnewydd. 

Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau Cymraeg cryf a bydd yn cydweithio gyda'n Prif Swyddog ac Ymddiriedolwyr y Fenter i gynllunio a gweithredu dwy strategaeth: Strategaeth Ymgysylltu Cymunedol Cynhwysol i gyflawni amcanion Cymraeg 2050 yn yr ardal a Strategaeth Marchnata’r Fenter . Bydd y strategaeth marchnata hon yn llywio ymgysylltu â’r gymuned leol ac yn dylanwadu arni drwy rannu straeon ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gefnogi gwaith Menter Iaith Casnewydd i gyflawni amcanion Cymraeg 2050. 

Byddai'r rôl hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â sgiliau Cymraeg lefel uchaf, profiad o waith cymunedol, ac arwain a chyflwyno ceisiadau am grantiau, yn enwedig mewn elusen fach neu ganolig ei maint. Gall hefyd fod yn addas ar gyfer unigolyn sydd â chefndir yn y maes farchnata, yn ogystal â gwaith cymunedol. 

Bydd profiad o weithio’n gymunedol a phrofiad o reoli prosiect hefyd yn fanteisiol, yn ogystal â phrofiad o wneud ceisiadau grant am gyllid yn y sector datblygu cymunedol.  

Bydd angen i chi fod yn hyblyg, yn drefnus, yn gallu dysgu’n gyflym ac yn gallu gweithio yn effeithiol fel aelod o dîm. 
 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â dafydd@mentercasnewydd.cymru | 07809 731 578

I geisio mae'n rhaid cyflwyno'r ffurflen gais (isod) i'r cyfeiriad e-bost uchod erbyn hanner nos 27/04/25

Disgrifiad Swydd

Ffurflen Cais