Shane Parsons - Swyddog Datblygu Cymunedol
12/02/25
Helo! Fy enw i yw Shane Parsons a fi yw Swyddog Datblygu Cymunedol newydd Menter Iaith Casnewydd.
Helo! Fy enw i yw Shane Parsons a fi yw Swyddog Datblygu Cymunedol newydd Menter Iaith Casnewydd. Dwi'n cyn disgybl o Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga ac wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd yn y Gymraeg.
Wedi i mi raddio, mi fues i yn byw a gweithio yng Ngogledd Cymru, roeddwn i'n gweithio mewn amryw o swyddi, gan gynnwys mewn gwestai e.e.. y “Hilton Garden Inn” yn Eryri a pharc “Haven” ym Mhrestatyn. Dwi hefyd wedi gweithio fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Dwi'n angerddol am y Gymraeg ac yn edrych ymlaen at helpu datblygu'r Gymraeg yn y gymuned leol. Dwi’n credu ei fod yn gyfle gwych i greu profiadau cadarnhaol o’r Gymraeg I bobl ifanc ac hyrwyddo'r iaith rwy'n ei charu.