Gweithwyr Chwarae Achlysurol
10/12/24
Rydym yn chwilio am "Weithwyr Chwarae Achlysurol" i weithio yn ein clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.
Rydym yn chwilio am "Weithwyr Chwarae Achlysurol" i weithio yn ein clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.
Ydych chi yn angerddol am y Gymraeg, am weithio gyda phlant ac am greu amgylchedd chwarae cyfoethog?
Fel Gweithwyr Chwarae Achlysurol byddwch yn cael:
· Cyfle i weithio yn y Gymraeg
· Hyfforddiant a chymhwyster achrededig (lefel 2 gwaith chwarae)
· Hyblygrwydd i dderbyn neu wrthod gwaith sydd ar gynnig
· Tal o £30.53 am bob sesiwn ddwy awr o waith yn ein clybiau ar ôl ysgol
· Gwaith wedi oriau ysgol ac yn ystod gwyliau
· Gostyngiad ffioedd 50%
· Profiad ymarferol
Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth, yn weithiwr rhan amser, yn fyfyriwr, neu rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes gofal plant neu addysg mae’r swydd yma yn ddelfrydol i chi.
Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio cysylltwch gyda ni ar - Post@mentercasnewydd.cymru
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Gweithiwr Chwarae Achlysurol
Ffurflen Gais Gweithiwr Chwarae Achlysurol