Swyddog Datblygiad Cymunedol newydd!

19/02/24

Hoffai'r Fenter cynnig croeso cynnes i'n Swyddog Datblygiad Cymunedau newydd - Daniel Minty.

Efalla’u i’ch bod yn ymwybodol o "Minty" o'i waith gyda @MintysGigGuide

Os hoffech chi ddod i nabod "Minty", dewch i'n i’n huned neu i un o’n gweithgareddau neu cysylltwch gyda fe ar ei e-bost e - daniel@mentercasnewydd.cymru  

Dyma gyfweliad bach gwnaethon ni gyda fe:

Enw:  Daniel Minty (llawer o bobl galw fi jyst Minty)

O ble ti’n dod a ble ti’n byw bellach? Dwi’n dod o’r Cymoedd yn wreiddiol (Abertyleri a’r Coed Duon). Dwi’n byw yng Nghaerdydd rŵan.

Swydd: Swyddog Datblygiad Cymunedol gyda Menter Iaith Casnewydd. Woop! Woop!

Cynnwys y gwaith (be’ ti’n neud): Dwi’n gweithio gyda phobl ifanc, teuluoedd, pobl henoed ar draws Casnewydd i alluogi nhw i ddefnyddio eu Cymraeg nhw. Dwi’n edrych ar gyfleoedd mewn cymunedau ar draws Casnewydd hefyd i gymryd rhan gyda Menter i adeiladu cymunedau newydd a wnewch Fenter fwy gweladwy yng Nghasnewydd.

Be’ ti’n mwynhau am y swydd? 
Dwi’n dwlu ar gwrdd gyda phobl newydd, dysgwyr newydd, siarad gyda phobl sy’n awydd go iawn o’r Iaith Cymraeg. Bob un dydd ddim yr un. Mae pawb yn gefnogaeth iawn gyda fi a fy nhaith trwy’r Iaith Cymraeg hefyd. Dwi wrth fy modd i gael rhyddid i greu cyfleoedd a digwyddiadau newydd i hyrwyddo Menter a’r Iaith Cymraeg ar draws Casnewydd.

Cas bethau: Seleri. Dim cwestiwn amdano fe. Ych a fi.