Menter Iaith Casnewydd wedi agor uned newydd yng nghanol y ddinas

28/11/22

Fel mae rhai ohonoch yn ymwybodol, mae Menter Iaith Casnewydd wedi agor uned newydd yn agored i'r stryd fawr yng nghanol y ddinas, o fewn Marchnad Casnewydd - datblygiad hynod o gyffrous.  Mae hwn yn rhan o’n hymdrech i fod yn fwy hygyrch i'n cymuned, i gynnig cyfleoedd a lleoliad i chi ddefnyddio'r Gymraeg a chreu presenoldeb fwy gweledol i'r iaith yng Nghasnewydd, felly dewch i weld eich Menter Iaith lleol chi yn ei gartref newydd!  Ni wrth bar Tiny Rebel, cyferbyn Subway.

Yn anffodus, o ganlyniad i broblemau tu hwnt i reolaeth Menter Casnewydd, mae'n rhaid i ni'n gohirio’r cyfarfod blynyddol. Mi fyddem yn cynnal Cyfarfod Blynyddol yn y flwyddyn newydd, ac mi nawn ni'ch hysbysu cyn gynted ag mae'r manylion wedi cadarnhau.

Yn anffodus, o ganlyniad i broblemau tu hwnt i reolaeth Menter Casnewydd, mae'n rhaid i ni'n gohirio’r cyfarfod blynyddol

 

Mae'r uned wedi ei gynllunio i fod yn ofod hyblyg aml ddefnydd. Mae'n bosib cynnal cyfarfodydd “hybrid” yma ac mae’r uned yn cynnwys gorsaf wybodaeth / adnoddau, man arddangos, ardal i blant, cegin, Y Cornel perfformio, man cyfarfod a gweithgareddau hyblyg yn ogystal â lleoliad gweithio i'r tîm. Hoffwn gynnal ystod o weithgareddau yma - isod mae holiadur i chi fynegi barn am y math o weithgareddau hoffech i ni gynnal.  

 

Holiadur

 

Hoffwn i'r uned cynnig cyfle i chi cymdeithasu a defnyddio'r Gymraeg, felly mae croeso i chi alw fewn pryn bynnag ru ni ar agor (9am-5pm Llun- Gwener) am baned a sgwrs. Mae'r uned hefyd yn adnodd cymunedol, felly os hoffech gynnal ddigwyddiad yma gadewch i ni wybod. Yn yr un modd, mae'r gofod arddangos yn agored i sefydliadau, busnesau a chymdeithasau lleol arddangos ac i  fasnachu ar sail "pop-up". Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli yn yr uned gadewch i ni wybod.

Am fwy o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â post@mentercasnewydd.cymru


Neu, wrth gwrs, mae croeso cynnes i chi alw fewn i’n gweld ni!