Swyddi - Gweithwyr Chwarae (achlysurol)
28/10/22
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i weithio'n achlysurol yn ein Clybiau Chwarae (ar ôl ysgol / gwyliau / penwythnosau).
Gweithwyr Chwarae (achlysurol) - Gweithgareddau plant a Clybiau Sbort a Sbri
Contract dim oriau
Cyflog Byw Cenedlaethol
Gwyliau 24 diwrnod (pro rata) o wyliau ar ben Gwyliau Banc statudol
Mae angen pobl sy’n medru dechrau gweithio cyn gynted â phosib. Gellir trafod sawl diwrnod a pa ddiwrnodau byddant yn gweithio ar sail contract dim oriau.
Hoffwn fod gan ymgeiswyr gymhwyster Gofal a Chwarae, ond nid yw’n angenrheidiol gan gallwn ddarparu hyfforddiant.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn yn hanfodol.
Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon.
Am fanylion pellach a/neu ffurflen gais cysylltwch â: post@mentercasnewydd.cymru neu 07809 731578