Tendr Swyddog Digidol

30/09/22

Mae Menter Casnewydd a Menter BGTM (Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy) yn awyddus i apwyntio Swyddog Digidol ar y cyd hyd at 31 Mawrth 2023.  

Mae’r Mentrau yn chwilio am unigolyn profiadol, proffesiynol a chymwys i fod yn gyfrifol am greu cynnwys digidol atyniadol a gafaelgar ac i weithredu cynlluniau marchnata digidol Menter Casnewydd a Menter Iaith BGTM. Bydd yr unigolyn yma yn rhan o’r sgwrs ddigidol leol, gan amlygu’r Gymraeg a rhoi’r hyder i drigolion dwyieithog ardaloedd y Mentrau ddefnyddio’r iaith ar-lein. 

      

Y Gwaith:   

Cydlynu adnoddau cyfryngau cymdeithasol Menter Casnewydd a Menter Iaith BGTM  
Cynhyrchu cynnwys gwreiddiol i’n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefannau 
Bod yn rhan o’r sgwrs ddigidol leol (e.e sylwadau calonogol, yn y Gymraeg/dwyieithog ar negeseuon, straeon ac erthyglau yn y wasg leol).  
Codi ymwybyddiaeth o’n gweithgareddau ac ymgysylltu ar gyhoedd â’n rhandaliadau  
Cysylltu â’r cyfryngau lleol a chymunedau i hyrwyddo gweithgarwch y Mentrau a’r Gymraeg.  
Datblygu a rheoli cyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo’n gwasanaethau a denu mwy o drigolion lleol i’n gweithgareddau.  
Cydymffurfio a chanllawiau golygyddol gan gynnwys defnyddio ‘Llais y Gymraeg’.  
  

Y cwmni/ unigolyn llwyddiannus:  

Brwdfrydedd, angerdd a hyblygrwydd  
Yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl (yn ysgrifenedig ac ar lafar)  
Synnwyr cyffredin ac empathi.  
Creadigrwydd  
Agwedd bositif 
Profiad o farchnata, ffotograffiaeth, dylunio neu olygu fideo.  
Profiad o reoli cyfryngau cymdeithasol llwyddiannus  
Dealltwriaeth o sefyllfa'r Gymraeg, y Mentrau Iaith a Phrosiect 2050  
Cyllideb: Cyflog o £15,000 gyda chyllideb marchnata digidol o £8,000 (£4,000 ar gyfer Menter Casnewydd, £4,000 ar gyfer Menter BGTM)

 

50% Menter Casnewydd, 50% Menter Iaith BGTM 

Lleoliad: Gweithio o gartref a/neu swyddfeydd y Mentrau

Dyddiad Cau: 17 Hydref 2022

 

Am fwy o wybodaeth a phecyn ymgeisio am y tendr cysylltwch drwy e-bostio thomas@menterbgtm.cymru a dafydd@mentercasnewydd.cymru