Swydd Newydd - Uwch-weithiwr Chwarae

18/01/23

Mae Menter Iaith Casnewydd yn chwilio am Uwch-weithiwr Chwarae i arwain yn ein clybiau ar ôl ysgol (Clybiau Sbort a Sbri) ac i gydlynu’n clybiau gwyliau.

Uwch Gweithiwr Chwarae 

Contract Dim Oriau

16 awr wythnos, oriau craidd [Dydd Llun - Dydd Gwener - 14.00-18.00], 

Cyflog £21,000 Pro rata,

Gwyliau 24 diwrnod (pro rata) o wyliau ar ben Gwyliau Banc statudol

 

Mae Menter Iaith Casnewydd yn chwilio am Uwch-weithiwr Chwarae i arwain yn ein clybiau ar ôl ysgol (Clybiau Sbort a Sbri) ac i gydlynu’n clybiau gwyliau.

 

Pwrpas y swydd:

                •             Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac  ysgogol

                •             Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc

                •             Goruchwylio systemau rheoli budd risg sy’n effeithiol

                •             Sicrhau cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

 

Prif ddyletswyddau        

•             Sicrhau’r ddarpariaeth o amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle gall y plant chwarae’n rhydd yn ôl yr hyn a ddarperir.

•             Cydlynu a sicrhau y cesglir y  plant o'r ysgol/ion.

•             Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, paratoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn ateb eu hanghenion chwarae unigol.

•             Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest gyda phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.

•             Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, a lle bo’n briodol yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau risg: budd ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.

•             Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amryw o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r dealltwriaeth o hawl plant i chwarae.

•             Dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau ar Ddiogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod sy’n cofrestru  

•             Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.

•             Sicrhau bod staff yn dilyn, ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’u hadolygu.

•             Sicrhau y goruchwylir y plant a’r bobl ifanc yn briodol drwy gydol y sesiynau.

•             Gweinyddu Cymorth Cyntaf fel y bo’n gymwys.

•             Sicrhau y cesglir y plant a’r bobl ifanc gan rieni/gofalwyr yn gweithio o fewn y canllawiau polisi.

•             Sicrhau y darperir ystod o opsiynau bwyd a diod yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.

•             Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.

 

Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol dielw sydd â’r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd ac i alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.

Mae Menter Iaith Casnewydd  wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol.

 

Cysylltwch gyda post@mentercasnewydd.cymru am fanylion pellach neu geisio.