Tim Pel Droed '5 bob ochr' Cymraeg Casnewydd

07/02/22

Rydym ni'n cychwyn tim pel droed '5 bob ochr' iaith Gymraeg i chwarae mewn cynghrair wythnosol.

 

Dyma dîm pêl droed '5 bob ochr' sydd yn cael ei greu ar gyfer siaradwyr Cymraeg ardal Casnewydd. Bydd y tîm yma'n cystadlu mewn cynghrair wythnosol yng nghanolfan gôl. Mi fydd y tîm yma'n croesawi bobl ifanc rhwng yr oedrannau o 16-24. Os oes gennych ddiddordeb neu am wybod mwy cysylltwch gyda ni drwy: post@mentercasnewydd.cymru neu ffoniwch 07784 477035.