SWYDD KICKSTART - Cynorthwyydd Digidol

27/07/21

Wyt ti rhwng 16-24 oed ac yn derbyn Credyd Cynhwysol? Hoffet ti weithio i fudiad blaengar, sy’n cynnal ac hyrwyddo cyfleoedd cymdeithasol Cymraeg? Dyma gyfle gwych i chi felly i ymuno gyda thim Menter Iaith Casnewydd a chael cyfle i reoli ein cynnwys digidol.

 

 

Crynodeb Swydd:


Bydd y Cynorthwyydd Digidol yn gyfrifol am reoli ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo ein gweithgareddau drwy greu cynnyrch hysbysebu gwreiddiol ar gyfryngau cymdeithasol, ymateb i ymholiadau, cynrychioli Menter Iaith Casnewydd ar-lein. Bydd disgwyl i’r Cynorthwyydd Digidol ddatblygu a rheoli ein presenoldeb ar-lein drwy godi ymwybyddiaeth o weithgareddau’r Fenter. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddatblygu sgiliau marchnata digidol, dysgu sut i gymedroli ein cyfryngau cymdeithasol a dilyn canllawiau golygyddol. Byddant yn hyrwyddo a chynrychioli’r iaith Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol drwy ddysgu sut i greu cynnyrch gwreiddiol a deall sut i ddefnyddio’r cyfryngau yma yn effeithiol.

 

Sgiliau Angenrheidiol
 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, angerddol, a bydd ganddynt agwedd iach tuag at waith. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd ganddyn nhw synnwyr cyffredin, empathi a chreadigrwydd gyda phrofiad mewn un o’r canlynol; cymhwyster newyddiadura, ysgrifennu creadigol, dylunio graffeg, marchnata, ffotograffiaeth, neu golygu fideo.

 

Os oes gennych ddiddordeb danfonwch ebost i ' post@mentercasnewydd.cymru '

 

Dyddiad Cau: 31/ 08/ 2021