Swyddog Datblygu Newydd
01/07/21
Mae Caradog wedi ymuno gyda Menter Iaith Casnewydd fel Swyddog Datblygu Cymunedol
Siwmae. Fy enw i yw Caradog a dwi newydd ddechrau gweithio gyda Menter iaith Casnewydd fel ‘Swyddog Datblygu Cymunedol’. Dwi’n hanu o ochrau Llandeilo a dyna ble cefais fy addysg gynradd ac uwchradd. Fe astudiais wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a dwi wedi byw yn yr ardal ers rhyw 4 mlynedd bellach.
Dwi’n ddilynydd mawr o gerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg. Yn fy arddegau cefais gyfle i fod mewn sawl band gwahanol. Un o rheini oedd Castro. Yn ychwanegol, dwi’n mwynhau darllen amryw o lyfrau gwahanol yn y Gymraeg. Mae rhaid fi ddweud bod llyfrau Llwyd Owen gyda’r ffefrynnau.
Mae Mentrau Iaith yn chwarae rôl bwysig o hysbysu’ a darparu gweithgareddau Cymraeg i’r gymuned. Dyma’r rheswm dwi’n gyffrous iawn i ddechrau gweithio gyda Menter Iaith Casnewydd. Nid yn unig byddai’n cael cyfle i drefnu gweithgareddau ond byddai hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda phartneriaid ac unigolion brwdfrydig ardal Casnewydd.