Cyfle Tendro - Gwasanaethau Cyfrifo
23/06/21
Hoffwn wahodd cynigion a dyfynbrisiau i ddarparu gwasanaethau cyfrifo i Fenter Iaith Casnewydd (Dyddiad Cau 11/07/21)
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni nid er elw ac yn elusen gofrestredig, sy’n bodoli i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac sydd â’r nod o gyfrannu at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol, cefnogi rhwydweithiau cymdeithasol y Gymraeg a chynyddu statws y Gymraeg ym mhob sector o fewn Dinas a Sir Casnewydd a thu hwnt.
Ceir 6 o staff o fewn Menter Iaith Casnewydd – Prif Swyddog, 1 Swyddog Datblygu a 4 aelod o staff rhan amser.
Strwythur Rheoli’r Menter Iaith Casnewydd
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn Elusen Gofrestredig. Rheolir gwaith y Fenter yn unol â chyfansoddiad y Fenter gan y Pwyllgor Rheoli. Darperir rheolaeth o ddydd i ddydd gan y Prif Swyddog.
Er gwybodaeth, trosiant Menter Iaith Casnewydd yn 2019/2020 oedd £121,954. Nid oes angen delio â PAYE gan fod CGGC (WCVA) yn gwneud hynny ar ein rhan.
Mae’r isod yn grynodeb o’r prif waith fyddwn am ei gyflawni:
Hanfodol
· Cadarnhau cyfrifon cyflawn a chryno ar sail SORP ac adroddiad archwilydd annibynnol
· Delio â Thŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennol drwy anfon y cyfrifon blynyddol, ayb
· Darparu cyngor dwyieithog fel bo'r galw
· Y gallu i greu cyfrifon blynyddol yn ddwyieithog
· Delio â’r holl gyfrifon yn electroneg
Dymunol
· Mynychu Cyfarfod Blynyddol y cwmni a chyfarfodydd eraill y Pwyllgor os oes angen o bryd i’w gilydd
Os oes gennych ddiddordeb i gyflawni’r gwaith uchod, gofynnir i chi gyflwyno pris fesul blwyddyn am gyfnod o 3 blynedd.
Dylid cyflwyno cais ynghyd â chefndir eich cwmni i Tomos Rodrigues, Trysorydd Menter Iaith Casnewydd drwy e bost i trysorydd@mentercasnewydd.cymru
Os am fwy o wybodaeth gellir cysylltu â’r swyddfa ar 07809 731578 neu e bostio: Dafydd Henry, Prif Swyddog Menter Casnewydd dafydd@mentercasnewydd.cymru
Dyddiad Cau 11/07/21