Hysbyseb Swydd - Uwch-weithiwr Chwarae (llawn amser)

26/03/24

Ydych chi'n angerddol am weithio gyda phlant a chreu amgylchedd chwarae cyfoethog?

Rydym yn chwilio am Uwch Weithiwr Chwarae cymwys a phrofiadol i ymuno â'n tîm.

Fel Uwch Weithiwr Chwarae, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad a sefydlu Clwb (au) Gofal Plant Ôl-Ysgol newydd tra'n sicrhau'r safonau uchaf o ofal a chymorth i blant a phobl ifanc.

Teitl y Swydd: Uwch Weithiwr Chwarae 
Lleoliad: Marchnad Casnewydd, Ysgol Bro Teyrnon, Ysgol Ifor Hael
Oriau: 37.5 awr yr wythnos 
Tâl: £24,000
Cytundeb:  12 Mis. Estyniad yn bosibl (yn ddibynnol ar gyllid)
Dyddiad Cau: hanner nos 14/4/24


Pwrpas y swydd:
·             Datblygu a sefydlu Clwb/Clybiau Gofal Plant All-Ysgol newydd.

·             Cefnogi clybiau newydd a phresennol a'u helpu i ddatblygu safonau ansawdd, gan gynnwys cefnogaeth ac anogaeth i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

·             Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol.

·             Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc.

·             Goruchwylio systemau rheoli risgiau a manteision yn effeithiol. 

·             Cydlynu cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

·             Sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau gofal dydd o ran y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.


Prif ddyletswyddau

Plant

·             Sicrhau bod amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle y gall plant chwarae’n rhydd cael ei ddarparu.

·             Cydlynu a sicrhau casglu plant o'r ysgol/ion.

·             Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, a pharatoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn diwallu eu hanghenion chwarae unigol.

·             Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest â phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.

·             Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, lle bo’n briodol gan gynnwys ymgymryd ag asesiadau risgiau a manteision ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.

·             Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r ddealltwriaeth o hawl plant i chwarae.

·             Dilyn y canllawiau a gweithdrefnau Diogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod cofrestru.  

·             Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru.

·             Sicrhau bod staff yn dilyn, ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’r broses o’u hadolygu.

·             Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu goruchwylio’n briodol drwy gydol y sesiynau.

·             Rhoi Cymorth Cyntaf fel y bo’n briodol.

·             Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu casglu gan rieni/gofalwyr gan weithio’n unol â’r canllawiau polisi.

·             Sicrhau bod dewis da o fwyd a diod ar gael yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.

·             Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.
 
Rheoli Staff

·                  Rheoli, cydlynu a goruchwylio Gweithwyr Chwarae cyflogedig a di-dâl  a myfyrwyr.

·                  Cydlynu cyfarfodydd tîm.  

·                  Cyd-gysylltu â’r pwyllgor rheoli/rheolwr/perchennog, rhieni, ysgolion ac asiantaethau eraill fel y bo’n briodol. 

·                  Annog rhieni i gymryd rhan a chefnogi pob clwb. 

·                  Annog y gymuned i gymryd rhan a chefnogi pob clwb.

·                  Adolygu ansawdd y gwasanaeth, gyda phlant a rhieni/gofalwyr, a datblygu arferion er mwyn sicrhau cynnydd parhaus (gall hyn gynnwys ymgymryd â chynlluniau sicrwydd ansawdd cydnabyddedig ac arfer adfyfyriol dyddiol).   

·                  Ymgymryd â hyfforddiant i helpu gyda datblygiad personol er mwyn cyflawni ei rôl ei hun, gan gynnwys: [Gwaith Chwarae, Cymorth Cyntaf, Diogelwch Bwyd Sylfaenol, Diogelu a Hawliau Plant, rheoli staff, goruchwylio ac arfarnu, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Anghenion Addysgol Arbennig, iechyd a diogelwch, swyddog tân. 

·                  Ymgymryd â goruchwylio ac arfarnu’r tîm staffio

 
Gweinyddiaeth 

·                  Cynnal gweinyddiaeth o ddydd i ddydd, cadw cofnodion, archebu a phrynu deunyddiau a chyfarpar.  

·                  Cadw cofnodion, cofrestrau ac adroddiadau priodol i sicrhau bod gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol yn cael eu bodloni.

·                  Sicrhau bod cofnodion a systemau’n cael eu cynnal yn ôl penderfyniad y pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr.   

·                  Bod yn gyfrifol am weinyddiaeth y Clwb o ddydd i ddydd. 

·                  Bod yn gyfrifol am gasglu ac ymdrin â ffioedd yn ddiogel. 

·                  Gweithio o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt, yn ôl yr hyn yr argymhellir gan y pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr. 

·                  Mynychu cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl yr angen, i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu a’i ddatblygu yn llwyddiannus. 

·                  Trefnu a chynnal gweithgareddau codi arian amrywiol o dan gyfarwyddyd y pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr.
 
Cyfreithiol

·                   Sicrhau bod pob agwedd ar ddarparu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion y  ddeddfwriaeth berthnasol, e.e. Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd 2010. 

·                   Ymgymryd â’r gofynion i gydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir 2011. 

·                   Sicrhau bod pob gweithgaredd yn cael ei weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth ar gyfle cyfartal, a’r holl bolisi fel y cytunwyd arnynt gan y Person Cofrestredig/Person Cyfrifol a’r pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr lle bo’n berthnasol. 

·                   Gweithredu’n unol â’ch cyfrifoldebau personol fel cyflogai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.

·                   Mynychu hyfforddiant mewn DPP er mwyn ateb y gofynion cyfreithiol.
 

Mae’r disgrifiad swydd hwn yn berthnasol ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd fel rhan o’r Adolygiad Datblygiad a Pherfformiad, a gall fod yn destun amrywiadau eraill. O bryd i’w gilydd y mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ymgymryd â thasgau eraill y gellir, eu rhoi’n rhesymol, i chi o bryd i’w gilydd.

Manyleb Person: Uwch Weithiwr Chwarae 

Hanfodol 

·                     Meddu ar gymhwyster perthnasol fel y’i diffinnir gan yr awdurdod sy’n cofrestru (AGC) 

·                     Cymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 3 neu gymhwyster Lefel 3 Gofal Plant ac yn hapus i weithio tuag at gymhwyster Gwaith Chwarae.

·                     Bod â gwiriad dilys, manylach y GDG.  

·                     Profiad o weithio gyda phlant oed ysgol gynradd [4-11oed]. 

·                     Profiad o oruchwylio staff neu wirfoddolwyr 

·                     Gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ddarparu Gofal Plant i blant oed ysgol.  

·                     Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o unigolion a rhanddeiliaid yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg

·                     Y gallu i gynnal systemau a chofnodion er mwyn sicrhau gweinyddiaeth a rheolaeth ariannol effeithiol y ddarpariaeth. 

·                     Gwybodaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. 

·                     Dealltwriaeth o gyfleoedd cyfartal, ac ymrwymiad iddynt 

·                     Dealltwriaeth o chwarae a datblygiad plant, y gallu i ddiwallu anghenion unigol plant a’r parodrwydd i ymgymryd ag hyfforddiant a’i adnewyddu 

·                     Arddangos amrywiaeth eang o sgiliau gwaith chwarae ymarferol. 

Dymunol 

·                     Tystysgrif Cymorth Cyntaf gyfredol

·                     Tystysgrif Diogelwch Bwyd Sylfaenol gyfredol

·                     Y gallu i gyfathrebu drwy amryw o wahanol ieithoedd e.e. Wrdw, iaith arwyddion a.y.b. 

·                     Sgiliau Llythrennedd Digidol neu barodrwydd i hyfforddi a datblygu. 

 

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person UGCh4 SJ_MR

 

Ffurflen Gais Uwch Swydd Clwb (1)

 

Am fwy o wybodaeth neu i geisio cysylltwch â post@mentercasnewydd.cymru neu 07809 731 578