Swydd - Swyddog Datblygu Cymunedol

10/12/24

SWYDD:                   Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd

LLEOLIAD:              Menter Iaith Casnewydd, Uned 2, Marchnad Casnewydd, Casnewydd, NP20 1DD

ORIAU GWAITH:    37.5 awr yr wythnos        

CYFLOG:                 £24,500 

GWYLIAU:               24 diwrnod o wyliau ar ben Gwyliau Banc statudol 

 

Mae Menter Iaith Casnewydd yn elusen a chwmni cymunedol nid-er-elw sy’n bodoli i hybu defnydd y Gymraeg a’i hwyluso yn Ninas a Sir Casnewydd.

Gwaith Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd yw creu a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg trwy ddatblygu, gweithredu a chefnogi rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau (amrywiol a chynhwysfawr) wedi’i seilio ar ymgynghori cymunedol.

Bydd yr unigolyn delfrydol yn gallu adnabod cyfleoedd i hybu defnydd y Gymraeg ac yn llawn syniadau i ddatblygu’r ddarpariaeth bresennol a chychwyn gweithgareddau gwbl newydd. Rydym yn chwilio am berson cyfeillgar, egnïol  a brwd a disgwylir bod ganddynt ddealltwriaeth o’r  iaith a materion yn ymwneud â Chymru a diddordeb ynddynt. 

Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i gefnogi gwaith craidd ac ehangach y Fenter ond hefyd yn annibynnol, gyda’r rhyddid i reoli gwaith eich hun i raddau helaeth (o fewn cyfyngiadau).

Byddwch yn gallu cyfathrebu’n hyderus gydag amrywiaeth o bobl, wyneb yn wyneb a gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Disgwylir i chi fod yn awyddus am brofiadau newydd ac i feithrin amrywiaeth eang o sgiliau newydd.

 

Manteision
Cyfle i weithio yn y Gymraeg i elusen a chwmni sydd yn rhan o rwydwaith o bartneriaethau cenedlaethol. 
Mae’n swyddfa wedi’i lleoli ym Marchnad Casnewydd, yng nghanol bwrlwm y ddinas.
Rhyddid sylweddol i gynllunio’ch gwaith eich hun yn seiliedig ar eich diddordebau, profiadau, sgiliau a dyheadau.

Amrywiaeth eang o waith a phrofiadau a’r hyfforddiant i feithrin y sgiliau newydd sydd eu hangen arnoch i gyflawni’r gwaith. 

Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol. 

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â dafydd@mentercasnewydd.cymru / 07809 731 578

 

I geisio mae'n rhaid cyflwyno'r ffurflen gais (isod) i'r cyfeiriad e-bost uchod erbyn hanner nos 13/01/25 

 

Disgrifiad_Swydd_Swyddog_Datblgyu_2024

 

Ffurflen_Gais_SDC_2024