Dafydd Iwan's songs inspire the Mentrau Iaith

30/09/22

See more

Caneuon Dafydd Iwan ydy'r ysbrydoliaeth, gyda gweithgareddau ar gyfer pawb ar draws y wlad.

Medd Dafydd Iwan:

“Gwych gweld bod “Yma o Hyd” wedi rhoi cymaint o asbri i dim pêl-droed Cymru a’r cefnogwyr. Mae’r Mentrau Iaith ac eraill yn adeiladu ar y cynnwrf arbennig hwn gan greu ymgyrch gyffrous sy’n mynd i roi cyfle i bawb yng Nghymru - ifanc a hŷn - i ymfalchïo yn eu gwlad ac yn y Gymraeg. Mae gweld y cynnwrf hwn yn enwedig ymhlith y bobl ifanc, yn codi fy nghalon.”

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys sesiynau cerddorol cymunedol, cynnal cystadlaethau i blant a phobl ifanc, cyfres o furluniau (cadwch eich llygaid ar agor!) ac adnoddau addysgiadol hwyliog. Bydd hefyd cyfle i’r ffans ddangos eu cefnogaeth i’r tîm trwy arwyddo crysau-T fydd yn cael eu cyflwyno i’r tîm cyn dechrau’r bencampwriaeth. 

Gweld Mwy